Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Awstria yn Vienna ar y chweched o  Hydref yn mynd ar werth heddiw.

Ar ôl gwerthu’r dyraniad cyntaf o 2,776 o docynnau erbyn prynhawn dydd Mawrth, ac yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-Droed Awstria, mae 712 yn rhagor o docynnau yn mynd ar werth am ddau y  prynhawn yma.

Mae’r tocynnau’n costio £26 yr un ac yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin.

Yn ogystal, os yw’r tocynnau ychwanegol yn cael eu gwerthu i gyd, bydd 150 o docynnau gwerth £51 i’r prif eisteddle yn cael eu rhyddhau.

Mae modd ceisio am docyn ar https://www.eticketing.co.uk/fawtickets-english/ neu drwy ffonio 0844 248 1876.