Tony Pulis
Mae’r pêl-droediwr proffesiynol modern fel “seren ffilm” erbyn hyn yn ôl y Cymro fydd yn dathlu carreg filltir arbennig yfory.

Bydd Tony Pulis yn dathlu 1,000 o gemau yn reolwr pêl-droed wrth i’w dîm West Brom herio ei hen glwb, Stoke City.

Daw’n rhan o glwb dethol o reolwyr sy’n medru brolio bod wrth y llyw am 1,000 o gemau. Yn eu mysg mae cewri megis Brian Clough, Syr Bobby Robson ac Alex Ferguson.

Mae’r Cymro 58 oed wedi bod yn reolwr pêl-droed ers ugain mlynedd ac mae’n dweud mai’r newid mwyaf dros y blynyddoedd yw dyfodiad y chwaraewr pêl-droed sydd fel “seren ffilm”.

“Rydw i’n credu bod pêl-droed yn ddrych o gymdeithas a bywyd ac mae’n rhaid i chi symud gyda’r oes,” meddai.

“Rydw i wedi symud gyda’r oes, wedi gorfod gwneud…

“Does dim o’i le ar ddisgyblaeth a pharch a gwaith called. Rydw i’n disgwyl hynny gan bawb – yn enwedig y chwaraewyr sy’n lwcus a ffodus dros ben.

“Mae chwaraewyr yn byw bywyd gwahanol… maen nhw yn byw mewn swigen ac yn cael popeth mewn bywyd. Maen nhw wedi dod yn sêr ffilm.”

Yn rhyfedd ddigon, bydd Tony Pulis yn cyrraedd y garreg filltir arbennig yn erbyn Stoke, y tîm fu’n rheoli am 464 o’i 999 o gemau hyd yma.

Ond rheolwr arall o Gymru sydd heb gael fawr ddim i’w ddathlu hyd yma’r tymor hwn yw Mark Hughes.

Nid yw ei dîm, Stoke, wedi curo’r un gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr ac mae cyn-ymosodwr Cymru dan bwysau.