Ray Jones Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mlaenafon dros y penwythnos.

Roedd Ray Jones yn teithio ar gefn beic modur pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char Volvo C70 coch ar heol Y Fenni B4246 am tua 8.05yb ddydd Sul, 17 Medi.

Bu farw’r ddynes 50 oed yn y fan a’r lle ac fe gafodd y dyn oedd yn gyrru’r beic modur ei gludo i Ysbyty Nevill Hall. Mae bellach wedi’i ryddhau gyda mân anafiadau.

Mae gyrrwr y car, dyn 46 oed o Flaenafon, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Dywedodd teulu Ray Jones mewn teyrnged: “Ray oedd angor ei theulu, wastad yn llawn bywyd, cariad a hapusrwydd.”

Mae Heddlu Gwent yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 503 17/09/16.