Hanner Marathon Caerdydd (llun o wefan y ras)
Mae disgwyl i fwy o bobol nag erioed redeg Hanner Marathon Caerdydd eleni ar ôl i don o bobol gofrestru yn y dyddiau olaf.
Fe wnaeth 2,000 o bobol dalu am le yn y 48 awr olaf, sy’n golygu y bydd tua 22,000 o bobol yn rhedeg yn y brif ras ar 3 Hydref.
Bydd bron i 25,000 o bobol a phlant yn cymryd rhan yn nigwyddiadau dros y penwythnos cyfan, sy’n cynnwys rasys teuluol ar 2 Hydref.
Hanner Marathon Caerdydd yw ail hanner marathon mwyaf gwledydd Prydain a’r drydedd ras ffordd fwyaf ar ôl y Great North Run a Marathon Llundain.
Mae’r trefnwyr yn dweud eu bod wedi ceisio manteisio ar lwyddiant Hanner Marathon y Byd a gynhaliwyd yn y brifddinas ym mis Mawrth: “Does dim amheuaeth bod Hanner Marathon y Byd wedi codi proffil Hanner Marathon Caerdydd i lefel arall.
“Gyda chymaint o rasys ar draws gwledydd Prydain, rydym wrth ein boddau bod record newydd yn nifer y bobol sydd wedi cofrestru,” meddai prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman.