Siân Gwenllian y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor
Mae nifer wedi mynegi pryder ynglŷn â’r cynlluniau sydd ar y gweill gan fwrdd iechyd y gogledd i ganoli’r gwasanaeth fasgwlaidd i gleifion clefyd y siwgr a salwch yr arennau.
Yr awgrymiadau honedig yw y bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud yr adrannau fasgwlaidd o Ysbyty Gwynedd a Maelor Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Er hyn, nid yw’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau manylion na lleoliad y gwasanaeth fydd yn cael ei ganoli.
Ond, yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, “mae’r bygythiad i ganoli’r gwasanaeth fasgwlaidd yn peri pryder mawr.”
‘Symud i un safle’
Dywedodd Siân Gwenllïan ei bod wedi codi’r mater gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ac wedi cael “cadarnhad fod Gweithgor wedi ei sefydlu gyda’r gwaith o ‘symud i un safle’.
“Dywedais wrtho nad wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl gyda’r syniad. Bwriadaf godi’r mater efo Llywodraeth Cymru.
“Eto – dywedodd Ysgrifennydd Cabinet ar Iechyd wrtha’ i mai mater i’r Bwrdd ydy o. Ond, credaf fod newid o’r fath angen ei graffu gan y Llywodraeth o gofio fod y Bwrdd mewn mesurau arbennig,” meddai wedyn.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig ers mwy na blwyddyn yn dilyn adroddiad damniol am yr arweinyddiaeth a’r gwasanaeth yno.