Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Mae llys wedi clywed fod dyn yn ei 40au wedi troi at droseddu ar ôl iddo gael ei gam-drin gan gyn-Brif-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru pan yn blentyn.
O du ôl i sgrin yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd y tyst ei fod ofn siarad am ei brofiadau am ei fod yn dwyn cyhuddiadau yn erbyn “pobol mewn awdurdod”.
Roedd yn honni i Gordon Anglesea, 78, o Hen Golwyn ei orfodi i weithredu yn erbyn ei ewyllys mewn tŷ yn Yr Wyddgrug yn yr 80au.
“Swyddogion heddlu, aelodau staff yn y cartrefi, roedden nhw’n bobol mewn awdurdod ac mi rydw i wedi tyfu fyny yn casáu awdurdod ers hynny,” meddai.
Bu’n siarad am ei gyfnod fel bachgen 14 oed yng nghartref plant Bryn Alyn, Wrecsam oedd yn cael ei redeg gan John Allen sydd ynghanol dedfryd oes am gam-drin 19 o fechgyn ifanc.
Mae Gordon Anglesea yn gwadu cyhuddiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn ei erbyn gan gynnwys ymosod yn rhywiol.
Amddiffyniad
Roedd Tanya Griffiths QC ar ran yr amddiffyniad yn cyhuddo’r tyst o ddweud celwydd yn y gobaith o ennill arian.
Fe restrodd hi’r holl achosion troseddol sydd wedi’u dwyn yn ei erbyn, gan honni ei fod wedi dewis gwneud cwyn yn erbyn Gordon Anglesea am ei fod yn ddyn “o statws uchel”.
Cefndir
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a honiadau o gam-drin bechgyn yn y 1970au a’r 1980au. Roedd Anglesea wedi ymddeol o Heddlu’r Gogledd yn 1991.
Cafodd y cyn-arolygydd ei arestio ym mis Rhagfyr 2013 gan swyddogion o Ymgyrch Pallial – ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn y system gofal yng ngogledd Cymru.