Llun: PA
Mae nifer y bobol ordew sydd angen cymorth gan griwiau tân ac achub i’w symud o’u cartrefi ar gynnydd.

Yn ôl y ffigurau newydd, sydd wedi dod i law’r BBC, bu 944 o achosion o’r fath ar draws Prydain yn y flwyddyn 2015/16. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol o gymharu â 709 o achosion dair blynedd yn ol.

O blith y rheiny, cofnodwyd y nifer mwyaf o achosion gan wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sef 77 o achosion, gyda 46 o achosion gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

‘Fel carcharorion’

Dywedodd Chris Jones, un o reolwyr gwasanaethau Tân de Cymru, fod yr achosion “yn gallu bod yn gymhleth” wrth iddyn nhw ddefnyddio offer arbenigol gan symud dodrefn yn aml.

Mae llawer o’r achosion yn ymwneud â chludo person i’r ysbyty am driniaeth, neu symud person sydd wedi marw yn eu cartrefi.

Ac yn ôl Dr David Kerrigan, llawfeddyg bariatrig fod cleifion “fel carcharorion, nid yn unig o fewn eu cyrff eu hunain ond o fewn eu cartrefi hefyd.”