Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad bachgen pum mlwydd oed.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am Rhys Goodwin o ardal Llandudno gysylltu â’r heddlu ar 101.

Roedd yn gwisgo ‘hoodie’ gwyrdd a throwsus brown ac roedd e ar ei sgwter pan aeth ar goll.

Mae ganddo fe wallt du.