Mae’r heddlu’n ymchwilio i dân yng nghartref mam-gu a thad-cu gwraig y pêl-droediwr Gareth Bale yng Nghaerdydd.

Cafodd cartref a char y cwpwl – sy’n 79 ac 84 oed – eu targedu, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod ail gar wedi’i orchuddio â phetrol ond nad oedd wedi mynd ar dân.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n trin y digwyddiad fel difrod troseddol a thân bwriadol.

Mae Bale, ei wraig Emma Rhys-Jones a’u dau o blant yn byw ym Madrid, ac fe gawson nhw wybod am y digwyddiad dros y ffôn.