Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas ag achos honedig o drywanu yn Abertawe fore Sul.

Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad mewn twnnel rhwng y Stryd Fawr a’r Strand am oddeutu 1 o’r gloch.

Mae’r rhai a gafodd eu harestio’n cael eu holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad o ddrws i ddrws yn yr ardal.