Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar draeth ger Porthcawl nos Wener.

Cafodd y corff ei ddarganfod ar draeth Merthyr Mawr, a chafodd yr heddlu eu galw am 5.18pm.

Mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i deulu Eddie Wise, 74, sydd wedi bod ar goll o Gas-gwent ers Gorffennaf 18.