Fe fydd Undeb Unsain yn cynnal protest heddiw ym Mhrifysgol Bangor yn gwrthwynebu newidiadau i bensiynau staff cefnogol y Brifysgol.

Fe fydd glanhawyr, gweithwyr diogelwch ac gweinyddwyr sy’n aelodau o’r undeb yn cyfarfod am 12.30yp ger y Porth Coffa ger Canolfan Pontio i brotestio yn erbyn cynlluniau’r Coleg Ger y Lli i fwrw ymlaen gyda gorfodi gweithwyr cyflog isel i dalu mwy o gyfraniadau pensiwn.

Mae’r undeb yn pryderu fod y cyfraniadau uwch gan weithwyr yn golygu y byddan nhw’n ennill llai, gan achosi iddyn nhw adael y cynllun pensiwn.

Fe lwyddodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar i ddatgelu bod 17 aelod o staff y brifysgol yn ennill mwy na £100,000, tra fod 245 o’r staff ar gytundebau dim oriau.

“Mae staff cefnogol y Brifysgol yn haeddu pensiynau teg fel pawb arall ond mae Prifysgol Bangor yn cosbi pobl sy’n ennill llai,” meddai Geoff Edkins o undeb Unsain.

“Yn hytrach na gorfodi cynnydd yn y cyfraniadau pensiwn mewn ffordd drahaus, mae’n gwneud synnwyr i’r Brifysgol aros tan 2017. Os oes angen newidiadau, beth am gael trafodaethau teg bryd hynny? Ein bwriad ni yw sicrhau pensiynau teg i bawb, beth bynnag yw eu cyflog.”