Fe allai’r lefel bresennol o’r diciâu ymhlith gwartheg beryglu cytundebau masnachu ag Ewrop oni bai bod newid polisi, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae’r undeb yn galw am ddadl yn y Cynulliad ar ddulliau o waredu’r diciâu, ac yn gofyn i holl aelodau’r Cynulliad gefnogi cynnig er mwyn lleihau nifer yr achosion.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan lefarydd ynni, newid hinsawdd a materion gwledig Plaid Cymru Simon Thomas, ac mae’n cael ei gefnogi gan Llŷr Gruffydd, ynghyd â Neil Hamilton (UKIP) a Paul Davies (Ceidwadwyr).
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Mae angen i bob Aelod Cynulliad gydnabod y bydd problem y diciâu ymhlith gwartheg yng Nghymru’n cael canlyniadau catastroffig i drafodaethau masnach yn y dyfodol os nad ydym yn mynd i’r afael ar fyrder â statws yr afiechyd yn ein bywyd gwyllt.
“Mae’r ddadl yn gyfle i gydweithio’n drawsbleidiol ar fater sydd â goblygiadau emosiynol ac ariannol sylweddol i nifer o ffermwyr yng Nghymru ac mae angen cefnogaeth y Cynulliad cyfan arnom er mwyn sicrhau newid polisi.”
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae lefelau’r diciâu yn uwch na’r lefelau a fyddai’n dderbyniol yng ngwledydd eraill Ewrop wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.