Carwyn Jones - trafod "termau semantic ddim o gymorth ar hyn o bryd"
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Prif Weinidog, Carwyn Jones am ddiffyg eglurder am ei safbwynt dros fynediad Cymru i’r farchnad sengl Ewropeaidd, yn dilyn Brexit.
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog am achosi dryswch dros gwestiwn mynediad i’r Farchnad sengl Ewropeaidd, ond mae Carwyn Jones wedi wfftio’r cyhuddiad gan fynnu mai’r nod yw sicrhau mynediad lawn i’r farchnad sengl.
Mae’r Blaid yn honni fod y Prif Weinidog wedi rhoi dau ateb gwahanol i Steffan Lewis yn y pwyllgor Materion Allanol, tra’n rhoi ateb yn siarad o blaid aelodaeth o’r Farchnad Sengl, i Leanne Wood.
Mae Leanne Wood wedi cyhuddo’r Llywodraeth o greu llanast, “Mae cryn ddryswch ynghylch safbwynt y Prif Weinidog ar aelodaeth o’r Farchnad Sengl. Mae hyn yn symtom o’r llanast yn y Llywodraeth Lafur ar y mater hwn.”
“Araf yn ymateb”
Y mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru eisoes wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, gydag arweinydd Plaid Cymru’n dweud bod yr ymateb yn “araf.”
Yn ôl Leanne Wood, “Mae pobl eisiau sicrwydd yn awr, nid mwy o ddryswch. Rhoddodd y Prif Weinidog ddau ateb gwahanol mewn dau ddiwrnod ynghylch a ddylai Cymru fod yn aelod o’r Farchnad Sengl, neu a ddylai Cymru gael dim mwy na “mynediad” iddi o’r tu allan.”
Ychwanegodd, “Os mai aelodaeth lawn o’r Farchnad Sengl yw’r dewis gorau i Gymru, dyna beth ddylai Prif Weinidog Cymru fod yn ei bledio.”
Trafodaeth hirfaith
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fe wnaeth y Prif Weinidog drafod yn hirfaith y modelau gwahanol i fynediad i’r farchnad sengl.
“Y mae ein safbwynt yn glir – y flaenoriaeth yw mynediad dirwystr i’r farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Nid yw trafodaeth ar dermau semantic o gymorth ar hyn o bryd.”