Mae cyn-olygydd a rheolwr cyfreithiol y News of the World yn wynebu cyhuddiad o ddirmyg seneddol yn dilyn tystiolaeth gafodd ei rhoi i bwyllgor seneddol oedd yn ymchwilio i honiadau o hacio ffonau.
Mae Colin Myler a Tom Crone yn gwrthod casgliadau ymchwiliadau gan Bwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin yn 2009 a 2011, oedd yn honni i’r ddau gamarwain y pwyllgor.
Roedden nhw’n honni mai un newyddiadurwr yn unig oedd wedi bod yn hacio ffonau, ond mae Pwyllgor Breintiau Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu y dylen nhw gael cerydd am nad oedd hynny’n wir.
Ond dywedodd y pwyllgor nad oedd Les Hinton, cadeirydd gweithredol News International, oedd yn berchen y papur, yn euog o’r un drosedd.
Dywedodd Myler ei fod yn “siomedig eithriadol” ynghylch penderfyniad yr ymchwiliad, a bod y dystiolaeth yn “gwrthddweud” ei hun.
Ychwanegodd Crone ei fod yntau hefyd yn glynu wrth y dystiolaeth a roddodd.
Dod i ben
Daeth papur newydd y News of the World i ben yn dilyn y sgandal hacio ffonau yn 2011.
Cafodd gohebydd brenhinol y papur, Clive Goodman ei garcharu yn 2007 am gynllwynio i glustfeinio ar negeseuon ffôn.
Roedd Myler wedi gwadu ei fod yn ymwybodol o weithredoedd gweithwyr eraill y cwmni, ond fe gyfaddefodd ei fod yn ymwybodol o’r hyn roedd Goodman yn ei wneud.
Er bod Crone yn ymwybodol o rai achosion o hacio ffonau, doedd dim digon o dystiolaeth i brofi ei fod e wedi ceisio camarwain yr ymchwiliad.
Doedd dim prawf ychwaith fod Hinton wedi ceisio camwain y pwyllgor ynghylch talu Goodman.
Roedd News International wedi honni bod Goodman a Glenn Mulcaire yn gweithredu’n annibynnol o’r cwmni, ond cafodd hynny ei wrthbrofi pan ddaeth e-bost i’r amlwg oedd yn awgrymu bod gweithwyr yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd o fewn y cwmni.