Fe fydd Cymru £500m y flwyddyn ar ei cholled yn dilyn Brexit, yn ôl adroddiad newydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan y Sefydliad Ymchwil Cyllidol.

Mae’r corff dylanwadol yn darogan y gall cyllideb Llywodraeth Cymru gael ei thorri hyd at 3.2% dros y dair blynedd nesaf, gyda’r toriadau mwyaf yn 2018-19 a 2019–20.

Os yw Llywodraeth Cymru yn dewis i warchod cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yn yr un modd a’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, fe fydd Llywodraeth Cymru, yn ôl y Swyddfa Ymchwil Cyllid, yn dioddef toriadau mwy dyfn o 7.4%.

Gyda cholled grantiau gan gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac os nad yw San Steffan am gamu fewn gyda’r arian, maent yn gweld y gall Llywodraeth Cymru golli £500 miliwn y flwyddyn yn dilyn Brexit.

Clec i lywodraeth leol

Mae’r Sefydliad Ymchwil hefyd yn proffwydo amseroedd anodd i Lywodraeth leol yng Nghymru hefyd, gyda chyllidebau yn debyg o ostwng 5.9% mewn termau real ar ben toriadau blaenorol.

Ymhlith canfyddiadau eraill yr ymchwil yw byddai cynnydd yng nghyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn 2% y flwyddyn, tra’n gwarchod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn arwain at 18% o doriadau i feysydd sydd heb eu gwarchod, dros y dair blynedd nesaf.

Cynyddu treth

Mae awdurdon yr adroddiad o’r farn, pe bai treth incwm yn cael ei ddatganoli yn rhannol, gan gynyddu graddfa yn gyffredinol o 1c, y gallai hynny ad-dalu hanner y toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae’r Sefydliad yn rhybuddio fod cynghorau lleol yn gorfod gwneud toriadau o 23% i wasanaethau sydd heb eu gwarchod.

“Mae’r ymchwil hwn yn tanlinellu’r trafodaethau anodd sy’n wynebu Llywodraeth Cymru,” meddai Polly Simpson, awdur yr adroddiad. “Mae gwarchod meysydd gwariant fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn gofyn am doriadau sylweddol i feysydd eraill.

“Mae’n bwysig i gofio fod y cynnydd mewn trethi dan Lywodraeth Cymru yn annhebygol o ddatrys y broblem. Er enghraifft, gyda chynnydd treth cyngor o 7% y flwyddyn, ond fe fyddai hynny hyd yn oed yn golygu toriadau rhifau dwbwl dros 3 mlynedd nesaf.”

‘Amseroedd ansicr’

Wrth ymateb i’r adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Cyllidol, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru,  “Yr ydym wedi gweithio’n galed i warchod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r effaith lawn y toriadau.  Yr ydym ar hyn bryd yn datblygu ein cyllideb ar gyfer 2017-8,  ac yn cyhoeddi hynny ar Hydref 18, gan edrych ar rhagolygon tymor hir a’r pwysau sy’n cael ei adnabod gan yr IFS er mwyn ei rheoli.”

“Fe fyddwn yn ystyried sut y gallwn ni ddefnyddio’r offer sydd yn ein meddiant  i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus mewn amseroedd ansicr.”

Wrth gyfeirio at yr arian gan yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd y llefarydd, “Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud hi’n glir ei fod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain ddal at ei addewid na fyddem ym colli yr un geiniog o nawdd Ewropeaidd.”