Mae plentyn o Sir y Fflint wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau wedi i le tân ddisgyn arno fore dydd Llun Medi 12.

Mae lle i gredu mai dwyflwydd oed oedd y bachgen bach, a chafodd yr heddlu eu galw i’r cartref yn Saltney am 8.37 y bore.

Cafodd y plentyn ei drin yn Ysbyty Caer lle bu farw’n ddiweddarach.