Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth merch ifanc o ardal Wrecsam fu farw ar ôl i’w char fod mewn damwain ym Mwlch yr Oernant, Sir Ddinbych.

Ar fore 5 Medi, cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i safle ger y ffordd rhwng y B5103 yn Llangollen a’r A5104 yn Llandegla.

Roedd Cassandra Dulson, 24 oed, o Rhiwabon, wedi marw ar ôl i’w char ddisgyn 75 metr oddi ar ddibyn.

Cadarnhaodd llefarydd o swyddfa’r crwner John Gittins bod y cwest wedi agor yn dilyn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun.