Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, Peter Edwards, a fu farw ddoe.
Bu’n bennaeth drama ITV ac yn gadeirydd TAC, y corff sy’n cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol.
Roedd Peter Edwards yn gyfrifol am nifer o gyfresi S4C, a’i gyfraniad yn fawr yn ystod blynyddoedd cynnar sefydlu’r sianel Gymraeg. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr y gyfres ddrama epig am yr Ail Ryfel Byd, Pum Cynnig i Gymro, a ddarlledwyd ar S4C a’i gwerthu’n rhyngwladol.
Bu’n gweithio ar amryw o raglenni ar S4C a’r BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cynnwys Pum Cynnig i Gymro, Yr Heliwr, Nuts and Bolts a’r opera sebon, EastEnders.
‘Meddyliwr ac athronydd’
Wrth dalu teyrnged dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Sioc ryfeddol oedd clywed y newyddion bod Peter Edwards wedi marw. Roedd Pete yn feddyliwr ac yn athronydd, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr ffilm a theledu hynod o ddawnus, ac roedd ganddo ymrwymiad dwfn i gyfrwng ffilm, ac i’r ymdrechion i ddatblygu a hybu ffilmiau Cymreig a Chymraeg.
“Roedd yn credu bod i ffilm werth mwy na diddanu’n unig, a bod iddi ran bwysig yn y gwaith o adeiladu a diffinio cenedl a chymdeithas.
“Chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu’r ddrama deledu yn nyddiau cynnar S4C, gyda chyfresi cefn-wrth-gefn fel Yr Heliwr/A Mind to Kill, gyda Philip Madoc, yn torri tir newydd ac yn cael eu gweld yn rhyngwladol. Bu’n Gadeirydd ar TAC, ac ar fwrdd asiantaeth Ffilm Cymru Wales, ac roedd yn ddiwyro fel cynhyrchydd, ymgyrchydd a phwyllgorwr wrth ymladd a dadlau i gael darlledwyr, a chyrff ariannu i gefnogi’r hyn roedd yn credu ynddo.”
Mae nifer o actorion Cymraeg amlwg wedi bod ar wefan Facebook yn cofio’n annwyl amdano, yn cynnwys Gareth Potter, Hywel Emrys, Ieuan Rhys a Wynford Elis Owen. Un o’r rhain yw Sharon Morgan:
“Trist iawn clywed am farwolaeth Pete Edwards,” meddai. “Wedi ca’l gymaint o gyfleoedd ganddo – yn bennaf Margaret Edwards yn Yr Heliwr. Grëodd e gymaint o waith perthnasol cyfoes, gan gefnogi gyrfaoedd lu. Colled ar ei ôl.”
‘Gweledigaeth ryfeddol’
Ymysg cynyrchiadau olaf Peter Edwards oedd y rhaglen ddogfen Pobol y Cwn.
Yn gynhyrchiad Barefoot Rascals ar gyfer S4C, roedd Peter Edwards yn uwch gynhyrchydd ar y rhaglen, gyda’i gyd gyfarwyddwr Gordon Main yn cynhyrchu.
Mae’n dilyn yr actores a’r gantores Gillian Elisa wrth iddi gyfarfod pobl sy’n dwlu ar gwn ledled Cymru.
Meddai Gillian Elisa: “Roedd Peter Edwards yn ddyn o weledigaeth ryfeddol wnaeth ysbrydoli cenedlaethau o ’sgwennwyr, actorion a chynhyrchwyr ffilmiau a rhaglenni ledled y byd.
“Roedd e wastad yn llawn syniadau a bob amser yn fodlon mentro a rhoi cyfle i actorion profiadol, newydd ac ifanc. Gweithiais i gydag e ar nifer o ffilmiau a chyfresi gan gynnwys Bowen a’i Bartner, Yr Heliwr/A Mind to Kiil a’r ffilm Eira Cynta’r Gaeaf/Christmas Stallion ac roedd e bob amser yn gefnogol, mewn ffordd dawel yn llawn hiwmor. Roedd e’n barod i ddweud ei farn ond mewn ffordd deg.
“Ei syniad a’i brosiect e’ i raddau helaeth iawn oedd Pobol y Cwn, roedd e’n gwybod am fy nghariad i at anifeiliaid a chwn yn enwedig, ac eisiau i fi rannu hynny gyda phobol eraill.
“Fe fydd colled fawr ar ei ôl a hoffwn gydymdeimlo gyda Delyth ei wraig a’i deulu.”
Fe fydd Pobol y Cwn yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 18 Medi.