Ethan Roberts (Llun: Heddlu'r De)
Mae bachgen 12 oed aeth ar goll heb ei inswlin ddydd Gwener wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel.

Cafodd ei weld ddiwethaf fore dydd Gwener, ac roedd yr heddlu wedi bod yn gofidio gan fod angen ei feddyginiaeth arno am glefyd y siwgr.

Ond dywedodd Heddlu’r De fod Ethan o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel yng Ngwent.