Mae Heddlu Gwent wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am Gary Jones, 53 o Lanmartin, sydd heb gael ei weld ers Awst 26.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar Stryd Llanarth yng nghanol dinas Casnewydd

Dywed yr heddlu eu bod yn gofidio am ei ddiogelwch.

Mae e oddeutu 5’10” ac o gorffolaeth ganolig, a chanddo wallt tywyll sy’n llwydo.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.