Aston Martin (Llun: Bonham's)
Gallai car Aston Martin a gafodd ei adeiladu yn 1936 gael ei werthu am hyd at £2 miliwn mewn arwerthiant gan Bonham’s ddydd Sadwrn.
Y gyrrwr Dudley Folland o Sir Gâr oedd perchennog y car ar un adeg, ac fe ychwanegodd y Ddraig Goch ato.
Fe brynodd y car ar ôl yr Ail Ryfel Byd a’i addasu i edrych yn debyg i Ferrari.
Mae’r car yn cael ei gynnig am £1.6 miliwn ond fe allai’r pris gyrraedd £2 miliwn.