Mae’r Aelod Cynulliad Julie Morgan wedi cael ei phenodi’n gadeirydd pwyllgor sy’n helpu i sicrhau bod Cymru yn manteisio’n llawn ar yr arian sy’n weddill o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Daw Aelod Cynulliad Llafur Gogledd Caerdydd i’r swydd yn lle’r cyn-gadeirydd Mick Antoniw, sydd bellach yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni.

Bydd yn arwain pwyllgor sy’n cynnwys 28 o aelodau sy’n deillio o’r byd busnes, y byd addysg a llywodraeth leol, diwydiannau’r tir a’r trydydd sector.

Wrth benodi Julie Morgan, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, “Mae arian Ewropeaidd yn hanfodol i gefnogi’n polisïau ar gyfer swyddi a thwf cynaliadwy, ac fe fydd y Cadeirydd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fanteisio i’r eithaf ar bob buddsoddiad Ewropeaidd sydd ar gael.”

“Rwyf wedi gofyn am ymrwymiad cadarn na fydd Cymru’n colli ceiniog o’r arian Ewropeaidd rydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd nes 2023 o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni’n parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau fydd yn cael eu cytuno ar ôl Datganiad yr Hydref eleni.”

Y fargen orau i Gymru

“Ein blaenoriaeth”, meddai Carwyn Jones  “yw sicrhau’r fargen orau i Gymru yn y trafodaethau sydd i ddod ar delerau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r holl gyllid sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd er mwyn i fusnesau, pobl a’r gymuned barhau i gael y gefnogaeth angenrheidiol.”

Dywedodd Julie Morgan: “Mae’r cyllid Ewropeaidd sy’n cael ei roi i Gymru yno am reswm – cefnogi twf a swyddi – ac rydyn ni’n benderfynol o ddefnyddio’r cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus.”

Ychwanegodd, “Bydd y pwyllgor hefyd yn helpu i lunio strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau’r canlyniadau gorau posib wrth i ni baratoi i newid ein perthynas gydag Ewrop.”