Mae llai o famau yn bwydo o’r fron yng ngwledydd Prydain nag yn unrhyw wlad arall yn y byd, yn ôl ymchwil gan academydd o Brifysgol Abertawe sydd wedi ei drafod yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain yn y ddinas heddiw.
Dywedodd yr academydd sy’n gyfrifol am yr ymchwil fod angen newid agweddau ym Mhrydain er mwyn cynyddu’r nifer o famau sy’n bwydo o’r fron.
“Nid yw Prydain yn ystyriol o fwydo o’r fron,” meddai Dr Amy Brown.
“Efallai ein bod yn hyrwyddo llaeth y fron fel y maeth gorau, ond does dim camau gweithredu i ategu hyn a chefnogi mamau newydd i fwydo ar y fron.
“Mae mwy o bobl yma ym Mhrydain sy’n credu bod taro plentyn mewn man cyhoeddus yn fwy derbyniol na’r nifer sy’n credu bod bwydo o’r fron yn iawn. Hyd nes ein bod yn newid agweddau fel hyn, ac yn rhoi gwell gofal i’n mamau newydd ac yn wirioneddol eu cefnogi i fwydo o’r fron, ni fydd y cyfraddau yn cynyddu.”
Roedd Dr Amy Brown yn trafod yr ymchwil hwn yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain ym Mhrifysgol Abertawe heddiw.
Llaeth o’r fron “am ddim”
Wrth sôn am fendithion bwydo o’r fron, dywedodd Dr Brown: “Mae’n rhad ac am ddim. Mae’n cael ei annog. Mae’n gyfleus. Serch hynny, er gwaethaf y ffaith bod dros 90% o famau Prydain am fwydo o’r fron, mae dros hanner y babanod wedi cael peth llaeth fformiwla erbyn diwedd yr wythnos gyntaf ac, yn gyffredinol, cyfraddau bwydo o’r fron Prydain yw’r rhai isaf yn y byd.”
Mae ymchwil Dr Amy Brown yn dangos fod 80% o famau sy’n rhoi’r gorau i fwydo o’r fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn dioddef iselder ysbryd.
Yn ôl yr academydd byddai cynyddu cyfraddau bwydo o’r fron yn arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain.
“Dylai bwydo ar y fron fod yn ymddygiad normal,” meddai Dr Brown. “Mae’r cwestiwn ‘a ddylai mam fwydo ar y fron mewn man cyhoeddus?’ yn cynhyrchu dros 18 miliwn o ganlyniadau yn Google, cynhyrchir 14 miliwn ar gyfer ‘ydy bwydo ar y fron yn anodd?’ a thros 7 miliwn ar gyfer ’mae bwydo ar y fron yn beth drwg’.”