Lewis Valentine, taid Ian Gwyn Hughes
Mae Ian Gwyn Hughes yn dweud iddo gael ei fagu i weld bod y Gymraeg yn rhywbeth “naturiol” i’w defnyddio bob dydd – ac roedd ei daid, Lewis Valentine, yn rhan bwysig o hynny.

Ond, meddai Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-roed Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle teilwng ym mywyd y gêm genedlaethol, doedd Lewis Valentine ddim yn ffan o ffwtbol o gwbwl! Er, mi fyddai ei daid wedi bod yn falch o lwyddiant Cymru yn Ewrop 2016…

“Roedd o’n gwybod mod i’n ffan mawr o bêl droed, ’mod i’n gwylio cymaint a chwarae cymaint ag oeddwn i’n gallu, oedd y pedwar ohonom fel brodyr yn dilyn pêl droed,” meddai Ian Gwyn Hughes.

“Pan wnes i ddechrau gyrfa gyda’r BBC (ym myd newyddiadura chwaraeon ac yn olygydd ar bêl droed BBC Cymru) oedd o jyst methu deall pam mod i’n gallu cael fy nghyffroi gan, fel oedd o’n dweud, jyst ’22 o ddynion yn cicio pêl i mewn i rwyd’.

“Ond dw i’n credu beth fyddai wedi ei blesio fo, fyddai’r ffaith fod rhywun yn rhan o lwyddiant ac yn rhywbeth oedd yn rhoi rhyw fath o ddelwedd i Gymru ar lwyfan rhyngwladol a chreu ymwybyddiaeth o Gymru a Chymreictod,” meddai.

Pêl-droed a’r Gymraeg

“Mae modd ei wneud o a modd gwneud o mewn ffordd lle dydi o ddim yn rhywbeth sy’n cael ei wthio i lawr corn gwddw rhywun ac yn gwneud i rywun feddwl yn negyddol.

“…Os ti jyst yn ei wneud o’n naturiol, ‘Diolch’ ar y crysau-t, cyhoeddiadau yn y Gymraeg, hysbysebion yn y Gymraeg, mae’r rhaglen yn ddwyieithog.

“Does neb erioed wedi cwestiynu pam fod defnydd o’r Gymraeg gennym ni mewn unrhyw beth rydan ni’n ei wneud, neb.

“A phan ti’n meddwl faint o ddiddordeb sydd i ni a faint o bobol sy’n ein gwylio ni a dangos diddordeb yn yr Ewros, does neb erioed wedi dweud ‘pam eich bod chi’n gwneud hyn?’”

Bu Ian Gwyn Hughes hefyd yn sgwrsio â golwg360 am ei atgofion o’i daid, a’i straeon am achos Penyberth.