Mae prawf gwaed newydd wedi’i ddatblygu ym Mhrifysgol Abertawe a allai ganfod canser yn gynharach nag erioed o’r blaen, trwy ganfod canser mewn cleifion sydd ddim wedi’u diagnosio eto.
Gallai’r prawf hefyd gael ei ddefnyddio i sgrinio pobol sydd mewn peryg o ddatgblygu canser, neu rai sydd ddim eto’n arddangos sumptomau.
Mae’r Athro Gareth Jenkins, sy’n arwain yr astudiaeth, wedi bod yn trafod ei ganfyddiadau yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe yr wythnos hon.
Sut mae’r prawf yn gweithio?
“Mae’r prawf yn canfod newidiadau (neu mwtadiadau) mewn protinau ar arwyneb celloedd gwaed coch,” meddai. “Mae’r protinau siwgraidd hyn yn gweithredu fel ‘Velcro’ i lynu protinau adnabod celloedd wrth arwyneb y celloedd.
“Mewn celloedd sydd wedi mwtadu, mae’r ‘Velcro’ ar goll ac felly mae’r celloedd yn ‘noeth’ ar gyfer y protin dan sylw.
“Mae staenio celloedd gyda gwrthgyrff fflwroleuol ar gyfer y proteinau adnabod celloedd yn gwahaniaethu rhwng celloedd normal a rhai sydd wedi mwtadu sy’n caniatáu i amledd celloedd sydd wedi mwtadu gael ei gyfrifo fesul person.”
“Larwm mwg” canser
Dros y pedair blynedd ddiwetha’, mae’r tim yn Abertawe wedi bod yn profi dros 300 o unigolion gan ddefnyddio canser yr oesoffagws fel enghraifft.
Meddai’r Athro Gareth Jenkins: “Mae modd cymharu’r prawf â ‘larwm mwg canser’… dyw’r synhwyrydd mwg ddim yn synhwyro presenoldeb tân yn ein cartrefi, ond ei isgynnyrch, sef mwg.
“Mae’r prawf hwn yn canfod canser drwy synhwyro’r ‘mwg’, sef y celloedd gwaed sydd wedi mwtadu. Mwtadu yw’r prif rym y tu ôl i ddatblygiad canser.”