Carwyn Jones yn croesawu'r cwmni i'w etholaeth
Fe fydd 39 o swyddi yn cael eu creu a 50 yn cael eu diogelu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sgil buddsoddiad newydd gan gwmni Americanaidd Zimmer Biomet.
Mae’r buddsoddiad gwerth £2.5m am alluogi i’r safle yn Ystâd Ddiwydiannol Waterton gael ei ehangu yn ogystal ag arwain at greu Canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd.
Mae’r buddsoddiad yn y cwmni meddygol yn digwydd gyda chymorth ariannol gwerth £700,000 gan Lywodraeth Cymru.
Croeso
Bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cwrdd â swyddogion yn Chicago heddiw i groesawu’r cyhoeddiad:
“Cafodd y penderfyniad i fuddsoddi ei gadarnhau heddiw yn fy nghyfarfod gyda Zimmer Biomet. Cefais y cyfle i ategu bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r penderfyniad i ehangu eu busnes yng Nghymru yn llawn,” meddai.
“Mae’n fuddsoddiad pwysig sy’n diogelu twf cynaliadwy’r busnes yng Nghymru yn y tymor hir ac yn sicrhau y bydd y safle’n parhau i chwarae rôl ganolog yn y sefydliad byd-eang hwn.
Cwmni sy’n creu cyfarpar meddygol artiffisial – gan gynnwys cluniau, pen-gliniau ac ysgwyddau ffug – yw Zimmer Biomet. Dim ond yn Warsaw, Indiana a Phen-y-bont ar Ogwr y mae gan y cwmni safleoedd i gynhyrchu’r cyfarpar.
Mae dros 800 yn cael eu cyflogi yn y safle presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.