Yn ystod Medi 7, 1936, y bu cyfarfod rhwng ‘Tri Penyberth’ yng ngwesty’r Fic, Porthaethwy, i drafod y weithred o losgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth.
Yn ei gar, meddai Saunders Lewis wrth Lewis Valentine a D J Willliams, roedd ganddo 10 galwyn o betrol a thair chwistrell efydd ar gyfer y gwaith.
Yn y Fic ar Fedi 7 y lluniodd y tri lythyr at y Prif Gwnstabl yn cyfaddef eu gweithred, cyn ei hanelu hi dros Bont Menai i gyfeiriad Pen Llŷn. Ar y ffordd, gadawyd copi o’r llythyr at yr heddwas, ynghyd â llythyr o esboniad am y weithred, yn swyddfa Plaid Cymru yng Nghaernarfon.
Am 2.30yb ar Fedi 8, 1936, y taniwyd y fatsien ym Mhenyberth, Penrhos ger Pwllheli.
Ychydig oriau’n ddiweddarach, yn ystod oriau mân Medi 8, 1936, roedd y tri yn cerdded i mewn i swyddfa’r heddlu yn nhre’ Pwllheli, ac yn cyfadde’ eu rhan yn y weithred wrth yr heddwas oedd ar ddyletswydd. Fe gawsant eu cadw yn y ddalfa, a’u cyhuddo’n ddiweddarach o “achosi difrod maleisus” i adeiladau’r ysgol fomio.