Caer Dinorwig (Llun y Comisiwn Brenhinol Henebion)
Mae pobol leol yn cael eu gwahardd rhag mynd fel y mynnan nhw at gaer hanesyddol ger Caernarfon – ac mae cynghorydd lleol yn galw ar Gyngor Gwynedd a chorff CADW i weithredu er mwyn achub y safle.
Mae arbenigwyr yn dweud fod Bryngaer Dinorwig yn Llanddeiniolen mor hen â 3,000 o flynyddoedd oed, ond mae’r Cynghorydd Euryn Roberts o Ddinorwig yn dweud ei bod yn cael ei difetha a’i hanwybyddu am nad yw cyrff llywodraethol yn gwneud digon i’w gwarchod.
At hynny, mae pobol leol bellach yn cael eu gwahardd rhag cerdded y llwybrau trwy’r caeau sy’n arwain at y fryngaer, ac mae perchennog y tir wedi gwahardd y cynghorydd lleol ei hun oddi ar y tir.
“Dim efo’r perchennog mae’r achos, yn fy marn i,” meddai Euryn Roberts wrth golwg360. “Be’ sgyna i ydi ein bod ni ddim yn cael mynd yna fel plwyf.
“Mae ysgol Penisarwaun ar droed y fryngaer a dydyn nhw ddim yn mynd yno. Mi an’ nhw heibio’r safle i fynd i Gastell Caernarfon… dydi rhai pobol leol ddim yn hyd yn oed gwybod fod y lle’n bodoli… Ond petaen nhw isio mynd yno, fasa nhw ddim yn cael.”
Twristiaid
Mae Euryn Roberts wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth i hanes y fryngaer, ac mae’n awyddus i weld y lle’n cael ei defnyddio i hybu twristiaeth yr ardal. Neithiwr, yng nghyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddeiniolen, fe gyflwynodd yr achos i’w gyd-gynghorwyr.
“Dw i wedi gwneud ymchwil i’r rhesymau mae pobol yn dod i Gymru ar eu gwyliau,” meddai Euryn Roberts, “ac un o’r prif bethau ydi am eu bod nhw wedi gwirioni efo’n hanes hi. Ond mae rhywun wedi cael codi tŷ yng nghanol bryngaer bwysig…
“Fasa neb byth yn cael adeiladu tŷ wrth ymyl Stonehenge,” meddai.
Galwadau
Yn ôl y Cynghorydd Euryn Roberts, mae yna restr o bethau sydd angen i CADW, yr adain o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gofrestru a gofalu am henebion a safleoedd o bwys hanesyddol, eu gwneud:
* clirio’r safle, gan fod coed a gwrychoedd yn tyfu ac yn gwreiddio yn agos i’r cerrig.
* hybu hanes a lleoliad y safle, trwy osod arwyddion a phytiau o hanes yn yr ardal.
* caniatáu mynediad i’r cyhoedd, heb iddyn nhw orfod gofyn i berchennog y tir yn gyntaf.
Mae golwg360 wedi bod mewn cysylltiad hefo CADW i drafod y gwyn, ac yn disgwyl ymateb. Mae Cyngor Gwynedd wedi anfon datganiad, yn dweud nad oes mynediad cyhoeddus i’r safle, ac oherwydd mai heneb ydi’r safle dan sylw, cyfrifoldeb CADW ydi ei warchod.
Hanes
Mae’r fryngaer wedi bod yn Llanddeiniolen ers beth bynnag 2,600 o flynyddoedd.
Ar ddiwedd Oes yr Haearn, roedd y lle’n cael ei gyfeirio ato fel “prif ddinas Arfon”.
Rhyw 300 mlynedd yn ôl, fe adeiladwyd tŷ ar y gaer ac ers hynny mae’r tir wedi bod yn eiddo i berchnogion preifat.