Y dystiolaeth yn Gymraeg (Llun: Karen Owen)
Fe agorodd achos tri Penyberth y ddadl dros hawl pobol i siarad Cymraeg mewn llysoedd barn, yn ôl y cyn Archdderwydd a’r cyn-fargyfreithiwr, Robyn Léwis.
Mae’n dweud mewn cyfweliad arbennig gyda golwg360, fod achos y tri – Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams – wedi codi ymwybyddiaeth o’r ffaith nad oedd gan y Gymraeg le yn y gyfundrefn gyfreithiol ar y pryd.
“Doedd pobol ddim wedi meddwl llawer amdano fe cyn hynny mae’n debyg,” meddai.
“Fe ddygodd yr annhegwch yma gerbron pobol a dwi’n siŵr ei fod o wedi bod yn rhannol gyfrifol bod ymgyrchoedd dros y Gymraeg, dros y blynyddoedd nesaf, wedi llwyddo i gael peth lle i’r Gymraeg yn y llysoedd.”
“Siaradwch Saesneg neu byddwch distaw”
Yn ystod yr achosion llys a ddilynodd cynnau’r tân yn Llŷn 80 mlynedd yn ôl, fe geisiodd y diffynyddion siarad Cymraeg, gyda’r barnwyr yn gorchymyn iddyn nhw beidio.
“Hynny yw, siaradwch yn Saesneg neu byddwch ddistaw,” meddai Robyn Léwis.
“Doedd gan y Gymraeg ddim statws o gwbl yn y Llysoedd Barn yr adeg hynny ac yr unig adeg y caniateid unrhyw fath o Gymraeg os oedd y tyst heb fedru Saesneg.
“Ond os oedd yn medru’r Saesneg, hyd yn oed y Saesneg mwyaf distadl, salaf, roedd yn rhaid iddo siarad yn Saesneg.
“Ac o ganlyniad, roedd yr achosion hyd yn oed yn Llys Ynadon Pwllheli, pan roedd bron pawb yn Gymry Cymraeg, gan gynnwys yr ynadon ei hunain, roedd yn rhaid iddyn nhw i gyd siarad Saesneg.”
‘Diffyg’ Saesneg DJ
Bu’r achos yna yng Nghaernarfon ond ar ôl i’r rheithgor fethu â chael y tri yn euog, cafodd ei symud i Lys yr Old Bailey yn Llundain.
“Pan aeth y mater i Lundain, doedd gan neb yn fan yno y diddordeb lleiaf yn y Gymraeg a Saesneg yn unig a ddefnyddiwyd,” meddai Robyn Léwis.
“Roedd yna un darn doniol iawn o’r achos sef pan oedd y barnwr yn eu dedfrydu nhw i garchar, fe ddywedwyd yn Saesneg gan y barnwr wrth Saunders Lewis a Lewis Valentine, ‘da chi’n mynd i’r carchar ac roedd DJ yn dal i sefyll yna.
“Fe sylweddolodd y llys, nad oedd ‘na neb yn bresennol… i roi tystiolaeth ei fod (DJ) yn medru Saesneg.
“Felly, fe fu’n rhaid i’r llys gyfieithu, ac fe ddywedodd ‘Diolch yn fawr Arglwydd’, ac i lawr i’r grisiau â fo efo’r lleill.”
Dywedodd mai mewn achos dau was fferm o Langadog, Sir Gaerfyrddin, a gafodd y Gymraeg unrhyw hawl swyddogol am y tro cyntaf.
“Roedd y ddau yn anabl i siarad Saesneg ac fe fu’n rhaid iddyn nhw gael cyfieithydd ond y ddau ddiffynnydd oedd yn gorfod talu am y cyfieithydd.
“Ar ôl hynny, fe gafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg (Deddf Llysoedd Cymru 1942)… ac mi gafwyd yr hawl cul iawn i siarad Cymraeg mewn llys, os oedd dan anfantais wrth siarad Saesneg.
“Ond nid y sawl oedd yn tystiolaethu oedd yn cael dweud, ‘dydy fy Saesneg i ddim yn ddigon da’, y llys oedd yn dweud.
“Doedd gan y llys ddim llawer o amynedd â hyn ac wedyn doedd y peth ddim yn digwydd i bob pwrpas.”
Sefyllfa heddiw
Erbyn hyn, mae gan bobol yr “hawl absoliwt, heb orfod rhoi rheswm a heb orfod talu i roi tystiolaeth yn Gymraeg,” meddai Robyn Léwis wedyn.
“Ond wrth gwrs, rydan ni’n dal i ddisgwyl newid yn y gyfraith i roi rheithgorau sy’n medru dilyn achos sy’n cael ei gynnal yn Gymraeg a dydy hynny ddim eto wedi dod.
“Daw o ddim yn fy marn i nes bydd gan Gymru ei chyfundrefn gyfreithiol ei hunan. Mae’r llywodraeth bresennol newydd wrthod rhoi rhagor o hawliau, hynny yw, rhoi Cymru fel uned, fel mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn unedau.
“Nes cawn ni hwnnw, dw i ddim yn credu y cawn ni achosion gyfan gwbwl yn Gymraeg.”