Mae cwynion wedi’u hanfon at Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, heddiw, wedi i gyfarfod ar gynlluniau tai ym Môn gael ei gynnal neithiwr heb offer cyfieithu.

Roedd hynny’n golygu fod y cyfarfod, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni gan yr Arolygaeth Gynllunio, wedi troi’n un Saesneg ei iaith, meddai beirniaid.

Bwriad y cyfarfod dwyawr, rhwng 7 a 9 o’r gloch, oedd egluro i’r cyhoedd y broses gynllunio o ran prosiect gorsaf bwer Wylfa Newydd a’r Grid Cenedaethol.

Cyn y digwyddiad neithiwr, roedd yr Arolygaeth wedi anfon negeseuon atgoffa i wefannau cymdeithasol fel Twitter yn ddwyieithog, yn gwahodd pobol i’r “cyfarfod allgymorth” er mwyn dysgu mwy am y cynlluniau “arwyddocaol” ym Môn.

“Yn dilyn methiant yr Arolygaeth Gynllunio i ddarparu offer cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfod cwbl anfoddhaol yn Llangefni neithiwr, mae cwynion wedi dechrau mynd i mewn i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg bore yma,” meddai Dylan Morgan o fudiad PAWB.