Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dymuno’n dda i athletwyr Paralympaidd Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gemau yn Rio de Janeiro.

Bydd seremoni agoriadol y gemau yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Channel 4 heno, a bydd y cystadlu yn dechrau ddydd Iau ac yn dod i ben ar Fedi 18.

Bydd 26 o athletwyr o Gymru yn cymryd rhan ac yn cynrychioli 10% o garfan Prydain.

Meddai’r Prif Weinidog: “Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru yng ngemau Paralympaidd Rio dros y pythefnos nesaf, gyda 10% o dîm Paralympaidd Prydain yn dod o’n gwlad ni.

“Ar ôl llwyddiant ysgubol mewn amryw o chwaraeon yn y gemau Olympaidd, mae’n wych gweld bod ein hathletwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o gystadlaethau, o Saethyddiaeth ac Athletau i Gleddyfaeth a Rygbi Cadair Olwyn.

“Mae dawn ac ymroddiad ein athletwyr Paralympaidd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd,” meddai Carwyn Jones. “Drwy gael eu dewis i gynrychioli tîm Prydain yn y gemau Paralympaidd maent yn profi bod penderfyniad a gwaith caled yn gallu arwain at gyflawni pethau mawr.

“Pob lwc i sêr Cymru a thîm Paralympaidd Prydain – mae’r wlad gyfan yn eich cefnogi ac r’yn ni’n edrych ymlaen at weld perfformiadau gwych unwaith eto!”