Selman yn dechrau dangos ei werth ar ôl cael ei gytundeb proffesiynol cyntaf gan Forgannwg
Tarodd y batiwr agoriadol Nick Selman ganred i Forgannwg i’w hachub ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.
Cyfanswm o 220 yn unig gafodd Morgannwg cyn iddyn nhw gael eu bowlio allan, a daeth yr Awstraliad yn agos at gario’i fat – batio trwy’r batiad cyfan – am yr ail waith y tymor hwn yn dilyn ei ganred cyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen fis diwethaf.
Ond fe gafodd ei fowlio gan Matt Taylor am 101 oddi ar y belen ar ôl iddo gyrraedd ei ganred.
Roedd batiad Selman yn cynnwys 14 pedwar mewn batiad a barodd 144 o belenni.
Cyn heddiw, doedd Selman ddim wedi sgorio yn ei bedwar batiad blaenorol.
Y bowliwr cyflym Michael Hogan oedd capten Morgannwg yn absenoldeb Jacques Rudolph, sydd wedi anafu ei wddf, oedd yn golygu bod y wicedwr Mark Wallace wedi cael ei ddyrchafu i agor y batiad.
Ond fe gollodd Wallace ei wiced yn gynnar yn y seithfed pelawd.
Ar ôl colli Will Bragg a David Lloyd yn ystod sesiwn y bore, roedd Morgannwg wedi cyrraedd 130-3 erbyn amser cinio, a Selman erbyn hynny wedi taro deg pedwar ar ei ffordd i’r hanner canred.
Ychwanegodd Selman ac Aneurin Donald 65 o rediadau am y bedwaredd wiced, ac fe orffennodd Donald ei fatiad bedwar rhediad yn unig yn brin o 1,000 o rediadau’r tymor hwn.
Parhaodd y wicedi i gwympo tan i Graham Wagg a Timm van der Gugten ychwanegu 38 am y nawfed wiced, wrth i Forgannwg sicrhau pwynt bonws am eu batio.
Ond fe orffennodd Taylor a Craig Miles gyda phedair wiced yr un wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan erbyn amser te.
Roedd bowlwyr Morgannwg yn gywir o’r dechrau’n deg, ac fe gipiodd van der Gugten wiced Gareth Roderick gyda phumed pelen y batiad, wrth i Selman oedd yn maesu yn y slip ddal ei afael ar ddaliad syml.
Craig Meschede gipiodd ail wiced Morgannwg, wrth i Chris Dent dynnu’r bêl yn sgwâr i David Lloyd.
Collodd Swydd Gaerloyw eu trydedd wiced ar ôl i Hogan ddarganfod coes Will Tavare o flaen y wiced.
Gorffennodd yr ymwelwyr y diwrnod cyntaf ar 62-3, 158 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg, a Hamish Marshall a George Hankins fydd wrth y llain ar ddechrau’r ail ddiwrnod.