Aled Brew
Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau wedi cyhoeddi heddiw y bydd Aled Brew yn gadael  ar unwaith.

Mae cyn asgellwr rhyngwladol Cymru yn gadael oherwydd ei fod wedi cael trafferth gydag anafiadau yn ystod ei gyfnod diweddaraf gyda’r Dreigiau ar ôl iddo ddychwelyd o Biarritz.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones: “Mae hwn yn benderfyniad sy’n addas i’r ddau grwp a gobeithio y bydd yn caniatáu i Aled gael dechrau newydd a chael mwy o amser yn chwarae gyda chlwb arall.

“Dymunwn yn dda iddo.”