Aled-Sion Davies
Mae’r Gemau Paralympaidd yn dechrau yn Rio de Janeiro yfory, lle bydd 26 o athletwyr o Gymru yn cymryd rhan.
Maen nhw wedi’u dewis ymhlith cyfanswm o 264 o athletwyr ar ran Prydain, ac felly’n cynrychioli 10% o’r garfan.
Ac eleni, mae Chwaraeon Cymru wedi gosod targed iddyn nhw ennill rhwng 20 a 30 o fedalau yn ystod y Gemau Paralympaidd yn Rio a Tokyo.
‘Cyfle i wneud eu marc’
“Rydyn ni’n falch iawn o fod â 26 o athletwyr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer y Gemau Paralympaidd,” meddai Jon Morgan, cyfarwyddwr gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Mae gennym ni grŵp o athletwyr sy’n cynnwys pencampwyr byd, pencampwyr Ewropeaidd, deiliaid record byd ac enillwyr medalau Paralympaidd.
“Mae gennym hefyd ieuenctid yn eu harddegau fel Sabrina Fortune a Jack Hodgson a fydd yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd,” meddai wedyn.
Ychwanegodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru:
“Mae ganddyn nhw i gyd gyfle i wneud eu marc yn y Gemau ac i greu mwy o uchafbwyntiau mewn haf sydd wedi bod yn un rhyfeddol hyd yma i chwaraeon yng Nghymru.”
Yr athletwyr o Gymru
– David Phillips o Gwmbrân, Saethyddiaeth.
– Jodie Grinham yn wreiddiol o Aberteifi, Saethyddiaeth.
– Aled-Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, Siot.
– Beverley Jones o Y Fferi Isaf, Siot / disgen.
– Hollie Arnold o Ystrad Mynach, Gwaywffon.
– Jordan Howe o Gaerdydd, 100m a 200m.
– Kyron Duke o Gwmbran, Siot a Gwaywffon.
– Laura Sugar o Gaerdydd, 100m a 200m.
– Olivia Breen yn wreiddiol o Gaerdydd, Naid Hir a Ras Gyfnewid 4x100m.
– Rhys Jones o Donypandy, 100m.
– Sabrina Fortune o’r Wyddgrug, Siot.
– Stephen Morris o Gaerdydd, 1500m.
– Jack Hodgson yn wreiddiol o Lanilltud Fawr, Jiwdo.
– Rachel Morris yn wreiddiol o Sir Benfro, Rhwyfo.
– Stephen Thomas o Ben-y-bont ar Ogwr, Hwylio.
– Owen Burke o Fodelwyddan, Saethu.
– Aaron Moores o Abertawe, Nofio.
– Paul Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, Tenis Bwrdd.
– Paul Karabardak o Abertawe, Tenis Bwrdd.
– Rob Davies o Aberhonddu, Tenis Bwrdd.
– Sara Head o Lantrisant, Tenis Bwrdd.
– Clare Griffiths yn wreiddiol o Gasnewydd, Pêl-fasged.
– Phil Pratt o Gaerdydd, Pêl-fasged.
– Jim Roberts o’r Trallwng, Rygbi.
– James Ball o Gasnewydd, Seiclo.
– Gemma Collins yn wreiddiol o Gwm Rhymni, Ffensio.