Mae dyn 57 oed o’r Fflint wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i’r heddlu ailagor achos hanesyddol yn deillio o 1976.
Ar 7 Ionawr 1976, cafodd merch ysgol bymtheg oed o’r enw Janet Commins ei llofruddio yn y Fflint.
Cafodd dyn ei garcharu am ddynladdiad ar ôl cyfaddef cyfrifoldeb am ei marwolaeth.
Ond, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r fei yn ddiweddar sy’n golygu eu bod wedi cael hawl i archwilio dau safle yn y Fflint ddoe.
Wedi hynny, fe wnaethon nhw arestio dyn lleol, nad sydd wedi’i gysylltu â’r achos o’r blaen, ar amheuaeth o lofruddiaeth a thrais.
Deugain mlynedd…
“Mae datblygiadau sylweddol wedi bod i gynorthwyo ymchwiliadau’r heddlu dros y ddeugain mlynedd diwethaf a newidiadau sylweddol ar sut rydyn ni’n delio ag ymchwiliadau o lofruddiaeth,” meddai Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu’r Gogledd, Iestyn Davies.
“Mae tîm ymroddedig wedi gweithio ar yr ymchwiliad hwn ac o ganlyniad mae tystiolaeth bellach wedi dod i law sy’n galw arnom i adolygu holl amgylchiadau o ran yr ymchwiliad cychwynnol. Am hynny, rydym wedi cyfeirio’r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu,” meddai.
Dywedodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.