Mae dyn oedrannus wedi ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Llandrillo yn Rhos, Conwy y prynhawn yma.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod Ffordd Llandudno, le digwyddodd y gwrthdrawiad, yn parhau ynghau i’r ddau gyfeiriad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a bws a chafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Credir bod ei anafiadau yn rhai difrifol.