Llun: Gwefan Clwb Rygbi Cymry Llundain
Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi llwyddo i ddenu perchenogion newydd i fuddsoddi yn y clwb a’i atal rhag mynd i’r wal.
Daw hyn yn dilyn cyfres o ddyledion treth gan y clwb, gan arwain at orchymyn i gael ei ddiddymu.
Ond, clywodd yr Uchel Lys dydd Llun fod rhywun wedi camu i’r adwy i dalu’r dyledion.
Mae’r clwb wedi cadarnhau fod grŵp o fuddsoddwyr o California wedi datgan diddordeb, ac fe fydd rhaid iddyn nhw’n awr gael sêl bendith Undeb Rygbi Lloegr.
‘Ymfalchïo’
Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1885, ond maen nhw wedi wynebu problemau ariannol yn y gorffennol gan gynnwys cyfnod gyda’r gweinyddwyr yn 2009.
Ac roedd adroddiadau diweddar yn y wasg yn awgrymu fod chwaraewyr wedi mynd heb dâl am fis.
Er hyn, mae’r clwb yn ymfalchïo bellach yn eu buddsoddwyr newydd gan ddweud fod hyn yn fodd i “gynllunio i’r dyfodol gyda hyder a brwdfrydedd o’r newydd.”
Dywedodd cadeirydd y clwb Bleddyn Phillips: “Rydyn ni wrth ein bodd ac yn gyffrous iawn i allu cyhoeddi perchennog newydd a fydd yn darparu cryfder ariannol i’r clwb i gynnal ei uchelgais fel tîm rygbi cystadleuol yn haenau uwch y gêm ar draws y Deyrnas Unedig.”