Cafodd Cymru y dechrau gorau posib i’w hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018, wrth iddyn nhw guro Moldofa o 4-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.

Sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl, sy’n golygu ei fod e bedair gôl yn brin o gyfanswm goliau Ian Rush i Gymru.

Mae gan Bale 24 o goliau rhyngwladol erbyn hyn, ac mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi dweud ei fod e’n credu y gall yr ymosodwr dorri’r record yn ystod yr ymgyrch.

Daeth goliau yn yr hanner cyntaf gan Sam Vokes a Joe Allen – ei gyntaf i’w wlad.

Ond rhaid canmol nifer o’r chwaraewyr eraill hefyd, yn enwedig Joe Allen a safodd yn gadarn yng nghanol y cae, gan greu sawl cyfle gyda’i rhediadau a’i bas gywir, ynghyd â’i waith amddiffynnol.

Roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas erbyn hanner amser, a’r goliau gan Bale – un o’r smotyn – yn eisin ar y gacen.

Fe allai Cymru fod wedi bod ar y blaen o fewn saith munud, ond fe wrthododd y dyfarnwr roi cic o’r smotyn ar ôl i Alexandru Dedov lorio Chris Gunter.

Oni bai am dactegau corfforol Moldofa, fe allai Cymru fod wedi bod ymhell ar y blaen erbyn yr egwyl.

Fe deimlodd Sam Vokes a Gareth Bale rym amddiffynwyr Moldofa nifer o weithiau yn yr hanner cyntaf, wrth i’r ddau gael eu llorio ar adegau gwahanol.

Chwe munud yn unig oedd rhwng y ddwy gôl gyntaf, wrth i Bale groesi i gyfeiriad Sam Vokes am y gyntaf, a hwnnw’n ei phenio hi i’r rhwyd.

Ergyd gan Bale arweiniodd at yr ail gôl, wrth i Gymru ennill cic gornel. O honno, fe ddaeth cyfle i Joe Allen o ochr dde’r cwrt cosbi ac mi aeth hi heibio i’r amddiffynnwr Igor Armas a thros y llinell.

Cymru wnaeth elwa o’r egwyl fwyaf, wrth iddyn nhw ddod allan am yr ail hanner â rhagor o dân yn eu boliau.

Bum munud yn unig gymerodd hi i Bale sgorio trydedd gôl Cymru yn dilyn camgymeriad gan Ion Jordan. Daeth y gôl honno â Bale yn gyfartal â Trevor Ford ac Ivor Allchurch ar restr sgorwyr Cymru, y ddau ohonyn nhw wedi sgorio 23 o goliau.

Cafodd Cymru ail wynt unwaith eto wrth i Hal Robson-Kanu ddod i’r cae yn lle Sam Vokes, ac fe wnaeth y newid roi rhagor o egni i Bale i chwilio am ail gôl.

Daeth honno o’r smotyn pan gafodd ei lorio yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, a honno oedd cic ola’r gêm.

Torri record

Yn dilyn y gêm, dywedodd Chris Coleman ei fod yn disgwyl i Bale dorri record Ian Rush yn ystod yr ymgyrch bresennol.

“Os edrychwch chi ar record Gareth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae siawns go dda y bydd yn digwydd.

“Mae’n bosib na fydd Gareth yn ymwybodol [o’r record] gan ei fod e’n dod gyda ni ac yn ffitio i mewn gyda’r celfi.

“Fydd e ddim yn meddwl bod rhaid iddo fe ei gwneud hi, ond mae siawns go dda y gall ddigwydd yn ystod y naw gêm nesaf.

Awstria a Georgia sydd nesaf i Gymru fis nesaf, a dydy Coleman ddim yn barod eto i edrych y tu hwnt i’r gêm honno yn erbyn Awstria.

“Fe fydd yna bwysau ond ry’n ni wedi ymdopi o’r blaen a gallwn ni ddygymod â’r disgwyliadau.

“Daethon ni drwy hon a nawr mae mis nesaf yn anferth.

“Gallwn ni wella eto ond mae gyda ni driphwynt a nawr, ry’n ni’n edrych tua’r prawf nesaf.”

‘Cymru’n lwcus’

Er y crasfa, dywedodd rheolwr Moldofa, Igor Dobrovolski nad oedd Cymru ar eu gorau a’u bod nhw’n lwcus i ennill.

“Dw i’n siomedig oherwydd pe bai Cymru wedi chwarae llawer yn well, byddwn i wedi gallu deall y peth.

“Ond fe wnaethon nhw sgorio bedair gwaith oherwydd ein camgymeriadau ni.

“Roedd Cymru’n lwcus oherwydd mae Gareth Bale yn dod o’ch gwlad chi ac mae e ymhlith tri chwaraewr gorau’r byd.

“Ond allwch chi ddim gwneud camgymeriadau ar y lefel honno, roedden nhw’n gamgymeriadau plentynnaidd.”