A fydd Chris Coleman yn dathlu heno, tybed?
Dydy Gary Speed byth yn bell o feddyliau carfan bêl-droed Cymru, ac mae’n siŵr eu bod nhw’n llwyr ymwybodol mai’r diweddar Speed sgoriodd y gôl fuddugol – unig gôl y gêm – pan gyfarfu’r ddwy wlad yng Nghaerdydd y tro diwethaf yn 1995.

Speed, i raddau helaeth, osododd y seiliau rai blynyddoedd yn ôl ar gyfer llwyddiant y garfan bresennol yn Ffrainc yn Ewro 2016. Ond bydd y rheolwr Chris Coleman – olynydd y diweddar Speed – a’i chwaraewyr yn awyddus i osod seiliau o’r newydd ar ddechrau ymgyrch Cwpan y Byd wrth i’w golygon droi tua Rwsia ymhen dwy flynedd.

Ac mae Coleman wedi cyfaddef ei fod yn “ddespret” i gyrraedd Cwpan y Byd.

“Os ydych chi’n rheolwr ar eich gwlad ac mae’n mynd yn dda, mae gyda chi genedl gyfan y tu ôl i chi – cenedl gyfan sy’n falch ohonoch chi.

“Ar gyfer Cwpan y Byd, rhaid i fi ddefnyddio’r gair “despret”. Rhaid i ni deimlo felly.”

Mae’n cyfaddef fod pob canlyniad yn “anferth” i Gymru – ond efallai na fydd yna driphwynt mwy anferth na’r rheiny y gallen nhw eu sicrhau heno i gael dechrau da yn yr ymgyrch.


Y chwaraewyr

Ond dydy paratoadau Coleman a’i garfan ddim wedi bod yn hollol esmwyth ar drothwy’r ymgyrch hon.

Roedd Hal Robson-Kanu heb glwb yn ystod Ewro 2016 ar ôl penderfynu gadael Reading, ac roedd ei ddyfodol yn ansicr tan ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo pan ymunodd â West Brom. O gofio gôl allweddol Robson-Kanu yn Ffrainc a’i fygythiad corfforol ymhlith yr ymosod, roedd yn ddatganiad mawr gan Coleman y byddai’n barod i ystyried ei ollwng o’r tîm pe na bai’n dod o hyd i glwb newydd.

Bydd Cymru, fodd bynnag, yn gorfod ymdopi heb Aaron Ramsey – sydd wedi anafu llinyn y gâr – ac roedd effaith ei absenoldeb yn amlwg iawn yn rownd gyn-derfynol Ewro 2016 wrth i Gymru golli yn erbyn Portiwgal i ddod â’r freuddwyd Ffrengig i ben.

Mae Jonny Williams hefyd allan, ac mae Coleman wedi mynegi pryder am ffitrwydd rhai o’r chwaraewyr ar ddechrau’r tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair – nid lleiaf Neil Taylor, sydd hefyd wedi peri pryder i reolwr Abertawe, Francesco Guidolin.

Y gwrthwynebwyr

Tra bod Cymru’n unfed ar ddeg yn rhestr detholion Fifa, yn safle rhif 165 mae eu gwrthwynebwyr heno – islaw Yemen, Gambia, Caledonia Newydd a Papua Guinea Newydd, ymhlith eraill.

Ond dydy rheolwr Moldofa, Igor Dobrovolski ddim yn poeni am y rhestr, meddai wrth y wasg yng Nghaerdydd nos Sul.

“Y peth da yw bo ni ddim yn poeni am ystadegau. Dw i ddim yn gwybod sut fyddwn ni’n ei gau [y bwlch], ond fe wnawn ni ffeindio ffordd.

“Os yw unrhyw dîm yn 11eg ar restr FIFA maen nhw wir yn ei haeddu, dw i’n meddwl, oherwydd y gwaith caled maen nhw wedi’i wneud.”

Amddiffyn Moldofa yw eu prif gryfder, ac fe fydd Chris Coleman a’i dîm yn ymwybodol eu bod nhw wedi cael ymgyrch Ewropeaidd wael y tro diwethaf, gan golli wyth o’u gemau.

Ond yn ôl Dobrovolski, dydy Moldofa ddim yn bwriadu “parcio’r bws”.

“Does gyda ni ddim bws!” meddai. “Bydd car gyda ni, fwy na thebyg, ond wna i ddim dweud wrthoch chi pa fath!”

Dim ond un gêm allan o 20 mae Moldofa wedi ei hennill yn ddiweddar, gan sgorio wyth gôl yn unig wrth iddyn nhw golli 14 o’r gemau hynny. Serch hynny, dim ond 26 o goliau wnaethon nhw eu hildio.

Bydd eu capten Alexandru Epureanu yn ennill cap rhif 74 yng Nghaerdydd – gan ddod yn gyfartal â record capiau ei wlad.

Ben-ben

Yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 96 yn Lloegr, un fuddugoliaeth yr un gawson nhw ar eu tomen eu hunain.

1-0 oedd hi i Gymru yng Nghaerdydd, tra bod y gêm ym Moldofa wedi gorffen gyda siom Gymru wrth iddyn nhw golli o 3-2.

Roedd Epureanu yn wyth oed ar y pryd, a’i wlad wedi bod yn annibynnol ers tair blynedd yn unig – ac mae’n gobeithio talu’r pwyth yn ôl am y canlyniad y mae’n ei gofio fel plentyn.

“Dw i’n cofio’r gêm, roedd hi’n bwysig iawn i’r wlad gyfan. Ond mae unrhyw fuddugoliaeth yn bwysig i ni ac ry’n ni’n gweithio’n galed i gael rhagor.”

Yn ôl i’r gorffennol

Tîm Cymru v Moldofa yng Nghaerdydd yn 1995: Southall, Bowen, Coleman, Adrian Williams, Symons, Pembridge, Horne (capten), Nogan, Rush, Hughes, Speed. Eilyddion: Roberts, Bodin, Phillips, Jenkins, Hartson

Ynghyd â Coleman, mae Kit Symons a Tony Roberts bellach yn rhan o dîm hyfforddi Cymru.

Cafodd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr yn y garfan y diwrnod hwnnw yrfa hir yng nghrys Cymru.

Ond beth am yr enw lleiaf adnabyddus yn y garfan honno, Lee Nogan? Ynghyd â’i gap yn erbyn Moldofa yn 1995, daeth ei unig gap arall yn erbyn Awstria yn 1992.

Roedd yn chwarae ar fenthyg i Reading o Watford ar y pryd ond ar ôl hynny, roedd ei yrfa fel chwaraewr ar i lawr, ac fe gafodd e gyfnodau gyda Notts County, Grimsby, Darlington, Luton, Caerefrog, Whitby a Halifax.

Ar ôl mentro i’r byd hyfforddi, daeth yn rheolwr Whitby yn 2006, gan ymddiswyddo flwyddyn yn ddiweddarach.

Ail-gofrestrodd fel chwaraewr gyda Halifax yn 2011 lle roedd e’n is-hyfforddwr Neil Aspin, ac mae’r ddau bellach yn gyfrifol am dîm Gateshead ers 2015.

Gemau nos Lun: Georgia v Awstria (5 o’r gloch), Cymru v Moldofa (7.45yh), Serbia v Gweriniaeth Iwerddon (7.45yh)