Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i wrthdrawiad traffig yn Heol Penarth, Caerdydd y bore ma.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y gyffordd rhwng Ffordd Corporation a Ffordd Clare.

Yn ôl yr heddlu, mae’n debyg y bydd y ffordd ynghau am beth amser ac maen nhw’n apelio ar yrwyr i osgoi’r lleoliad, sy’n arwain i ganol Caerdydd, am y tro.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.