Mae Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, a gyhoeddodd ei fwriad i gamu o’r rôl ychydig fisoedd yn ôl, wedi mynd yn ôl i’w wreiddiau drwy ymuno â phrosiect cerddorol.

Mae caneuon GLX i’w clywed ar wefan SoundCloud, gyda Dafydd Rhys yn canu yn y ddwy gân ddiweddaraf – fersiynau dwyieithog o’r un gân – Plentyndod Bynea ac A Bynea Childhood.

Roedd y cyfarwyddwr yn arfer bod yn y band pync Llygod Ffyrnig yn y 1970au, sy’n cael ei gyfrif fel y band pync Cymraeg cyntaf.

Er ei gefndir mewn pync, mae’r prosiect GLX ychydig yn fwy dof a melodïaidd ei sain, gyda’r gân yn cael ei ddisgrifio fel un pop, ac sy’n rhan o gasgliad ‘Caneuon Edrych Nôl’ y prosiect gan Gary Beard.

Pentref ger Llanelli yn Sir Gaerfyrddin yw Bynea, ac mae’r gân yn olrhain plentyndod yn yr ardal honno.

Yn ymuno â Dafydd Rhys yn y caneuon y mae Brian Box ar yr allweddellau a Gary Beard sydd yn berchen ar y geiriau a’r gerddoriaeth.

Camu yn ôl

Fe gyhoeddodd Dafydd Rhys ym mis Mawrth y bydd yn rhoi gorau i’w rôl ar ôl cyfnod o bum mlynedd yn y swydd.

Mae fodd bynnag yn dal i fod yn y swydd tan ddiwedd y flwyddyn.

Fe ddaeth ei benderfyniad ychydig ddyddiau yn dilyn ymgyrch ddadleuol S4C i osod isdeitlau Saesneg awtomatig ar rai o raglenni’r sianel am bum diwrnod.

Fe fynnodd llefarydd ar ran S4C fodd bynnag, nad oedd gan y cyhoeddiad ddim i’w wneud â’r helynt isdeitlau, a bod y penderfyniad wedi cael ei wneud “ymhell” cyn yr ymgyrch.