Mae’r cyfansoddwr o Benclawdd, Karl Jenkins, wedi’i gomisiynu gan S4C i gyfansoddi darn o gerddoriaeth i gofio’r 116 o blant a laddwyd ym mhentre’ Aberfan hanner canrif yn ôl.
Bydd Cantata Memoria yn cael ei berfformio am y tro cynta’ yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar Hydref 8 eleni, ond yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar gofio’r drychineb, mae’n edrych tua’r dyfodol gyda gobaith.
Bydd côr o 116 o blant ymhlith y cantorion, ynghyd â Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas a’r delynores, Catrin Finch.
Awdur y libreto yw Mererid Hopwood, ac mae hi’n cyfuno tair iaith – y Gymraeg, Lladin a’r Saesneg.
Heddiw hefyd cyhoeddwyd y bydd recordiad o’r gwaith ar gael i’w brynu o 7 Hydref 2016 ymlaen, wedi ei gyhoeddi gan gwmni Deutsche Grammophon.
Cymru “byth am anghofio”
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:”Mae S4C yn falch o gomisiynu’r gwaith corawl hwn gan un o gyfansoddwyr pwysica’r byd, Syr Karl Jenkins. Mae’n destament gwirioneddol i bobl, sydd, yng ngeiriau’r bardd Mererid Hopwood, wedi llwyddo i edrych tuag at y ‘goleuni’ tu hwnt i’r ‘tywyllwch y tu mewn’.
“Roeddwn i’n grwt diniwed saith mlwydd oed yn byw rhyw 25 milltir i ffwrdd yn Nhreforys pan ddigwyddodd y trychineb, ac fe wnaeth y diwrnod adael argraff oes arna i; y colli bywyd enbyd, dewrder y gweithwyr achub a thristwch ac urddas y teuluoedd a’r gymuned leol.
“Ni fydd pobol Cymru byth yn anghofio 21 Hydref 1966 pan wnaeth glo gwlyb mwdlyd o domen gwastraff Glofa Merthyr Vale syrthio ar Ysgol Gynradd Pantglas,” meddai Ian Jones. “Yn fwy na dim arall, rydym yn parhau i edmygu penderfyniad y bobol leol i ail-adeiladu eu cymuned, yn enw’r rhai a gollodd eu bywydau mor greulon o ifanc.
“Mae Cantata Memoria yn deyrnged barhaol i’r gymuned a Chymru gyfan i gofio Aberfan am byth.”