Trên bach yr Wyddfa (Llun: Wicipedia)
Mae dathliadau pen-blwydd Rheilffordd yr Wyddfa yn 120 oed yn dechrau heddiw.

Fe fydd yr orsaf wrth odrau mynydd uchaf Cymru yn Llanberis yn cynnal gweithgareddau i blant a bydd mochyn yn cael ei rostio fel rhan o stondinau bwyd a diod. Ac er mwyn nodi’r pen-blwydd, fe fydd pob un o aelodau staff y rheilffordd wedi eu gwisgo mewn dillad Oes Fictoria.

Cafodd y reilffordd 4.7 milltir o hyd ei hagor yn swyddogol yn Ebrill 1896. Y mae dros 500,000 o ymwelwyr yn mynd i gopa’r Wyddfa ar y trên yn flynyddol. Y mae’r trên yn rhedeg yn gyfochrog â llwybr Llanberis i gopa’r mynydd ac yn codi i uchder o 3,560 troedfedd.

Y mae pedair o’r injans a ddefnyddiwyd yn wreiddiol yn dal i ddringo’r mynydd heddiw, gyda’r cwmni wedi amcangyfrif fod y trên sy’n dwyn yr enw ‘Enid’ wedi gwneud yr un pellter â phetai hi wedi mynd i’r lleuad ac yn ôl bedair gwaith. Mae hynny’n gyfanswm o 3,075,200 cilomedr ers 1896.