Techniquest Caerdydd (Pauline Eccles CCA 2.0)
Mae gwyddonydd amlwg wedi dweud y byddai’n “golled anferth” pe bai canolfannau Techniquest yn gorfod cau oherwydd toriadau yn eu harian.
Dywedodd yr Athro Deri Tomos o Ysgol Gwyddorau Bioleg Prifysgol Bangor fod y ddwy ganolfan yng Nghaerdydd a Wrecsam yn “fuddsoddiad yn y dyfodol” a bod llefydd tebyg wedi dylanwadu’n anferth arno pan oedd yn ifanc yng Nghaerdydd.
“Mae’n lle mor ddylanwadol er mwyn cael plant i mewn i dechnoleg a gwyddoniaeth ac yn hollbwysig i ddyfodol Cymru a dyfodol economaidd Cymru,” meddai.
Dim arian wedi 2021
Ddoe fe ddaeth hi i’r amlwg na fydd Llywodraeth Cymru yn noddi Techniquest o Ebrill 2021 ymlaen ar ôl blynyddoedd o gefnogi’r canolfannau sy’n llawn gweithgareddau hwyliog yn ymwneud â gwyddoniaeth.
Mae’r elusen ar hyn o bryd yn derbyn tua £1.3 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y ddau safle.
Roedd y ganolfan yng Nghaerdydd eisoes wedi cael gwybod yn gynharach yn y flwyddyn ei bod yn wynebu toriad o 22% yn y grant y maen nhw’n ei derbyn erbyn 2019 ond mae bellach wedi cael mwy o amser i wneud cynlluniau newydd ond gyda’r nawdd yn stopio’n gyfan gwbl.
Meddai’r Athro Deri Tomos: “Mae’n un o’r llefydd hynaf o’i fath yn y wlad ac rwy’n cofio’r lle’n agor dros ffordd i’r castell yng Nghaerdydd ac yn dotio.
Nawdd
Er ei bod yn anodd ar bawb yn ariannol, roedd angen i’r Llywodraeth barhau i helpu Techniquest, yn ôl Deri Tomos.
“Y broblem fawr wrth gwrs yw cadw’r staff arbenigol,” meddai. “Dim cwestiwn bod rhaid i lefydd fel hyn gael eu hariannu.
“Mae grantiau ar gael ar gyfer prosiectau unigol ac mae nawdd masnachol hefyd yn opsiwn. Ond rwy’n gobeithio bod modd sicrhau rhyw fath o ddilyniant ar gyfer staff arbenigol yn yr hirdymor.
“Mae ddyletswydd arnom ni i gyd i gynnal llefydd fel Techinquest – does dim amheuaeth ei fod wedi bod yn llwyddiant ac fe fyddai’n golled aruthrol i’r ddinas petai’n gorfod cau.”