Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi y bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn ail-agor yn yr Hydref wedi oedi hir.
Roedd disgwyl i’r cynllun £6 miliwn i ail-ddatblygu’r oriel gael ei gwblhau ddwy flynedd yn ôl.
Fe gaeodd yr oriel ei drysau yn 2011 yn fuan ar ol dathlu ei chanmlwyddiant ond mae oedi sylweddol wedi bod yn y gwaith o’i hail-ddatblygu.
Dywed Cyngor Abertawe y bydd yr oriel ar yn ail-agor ar 15 Hydref gydag arddangosfa o ddarluniau Leonardo da Vinci, ynghyd a digwyddiadau yn rhad ac am ddim a cherddoriaeth byw.
Nod yr ailddatblygiad yw “uno’r adeiladau hanesyddol”, gyda storfa gelf hefyd wedi ei hadeiladu.
Bydd cyfleusterau newydd i gynnal darlithoedd ac arddangos casgliadau dros dro, caffi, siop a llyfrgell newydd.
Cafodd y cynllun ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a £3.8m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George, bod yr oriel yn “leoliad allweddol yn ein rhwydwaith cenedlaethol o orielau” a bod y datblygiad yn “adlewyrchu ein huchelgais i ddarparu’r gorau mewn celf weledol yng Nghymru”.