Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig a ddigwyddodd yn Waunadda, Caerdydd lle bu farw dynes 22 oed.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 12.35yb dydd Llun (Awst 22) ar y gyffordd rhwng stryd Meteor a Moira lle wnaeth car BMW du wrthdaro â bloc o fflatiau.

Bu farw’r ddynes 22 oed, oedd yn gyrru’r car, wedi’r gwrthdrawiad, ac mae dyn 21 oed a oedd yn teithio gyda hi yn cael ei drin yn yr ysbyty am anafiadau difrifol.

Mae pedwar o bobol  wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae’r heddlu’n galw am unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600319903.