Fe fydd y gwleidydd sy’n herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, yn dod i draddodi araith i aelodau’r blaid yn Wrecsam heno.

Ac fe ddaw ar y diwrnod pan y mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi datgan ei gefnogaeth iddo yn y ras i fod yn arweinydd y blaid Lafur.

Mae Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd, ar daith o wledydd Prydain ar hyn o bryd, cyn y bydd aelodau’n gwneud y dewis rhyngddo a Jeremy Corbyn.

Fe fydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl ar Fedi 24 eleni.