Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion, wedi i dri char fod mewn gwrthdrawiad angheuol yn ne Gwynedd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 7.25yb heddiw, ar briffordd yr A496 rhwng Bontddu a’r Bermo. Roedd car Citroen arian, a dau Ford Fiesta – naill yn las a’r llall yn goch – yn rhan o’r ddamwain.
Gyrrwr y car Citroen sydd wedi’i ladd, tra bod gyrrwr y Fiesta glas wedi’i glud i Ysbyty Gwynedd, Bangor.