Nathan Gill - dim sylw eto (Llun UKIP)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod yr Uned Dwyll Genedlaethol yn ymchwilio i faterion ariannol dyn o Ynys Môn, yn dilyn honiadau yn y wasg mai’r Aelod Cynulliad Annibynnol.Nathan Gill, yw hwnnw.

Mae’r heddlu wedi gwrthod cadarnhau’r enw ond mae Golwg360 yn deall bod yr ymholiadau’n ymwneud â chostau ac yn ôl y BBC yr honiad yw fod yr heddlu’n ymchwilio i ddefnyddo o gostau at bwrpas gwleidyddol.

Mae Nathan Gill sy’n byw yn Ynys Môn, yn arweinydd Plaid UKIP yng Nghymru ac mae’n aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru,ac hefyd yn aelod o Senedd Ewrop.

Daeth Nathan Gill dan bwysau i ymddiswyddo fel arweinydd UKIP yng Nghymru yn dilyn ei benderfyniad i droi cefn ar UKIP yn y Cynulliad, gan gyhoeddi ddoe ei fod yn yn dal y sedd fel aelod annibynnol.

Twyll

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd, “Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru ohebiaeth ar Awst 11 gan yr Uned Dwyll am honiadau twyll yn erbyn dyn o Ynys Môn. Mae’r mater hwnnw dan ymchwiliad ac yr ydym yn methu gwneud sylw pellach.”

Dywedodd llefarydd ar UKIP wrth BBC Cymru fodnad yw Nathan Gill wedi siarad gyda’r Heddlu ac na fydd sylw yn cael ei wneud nes bod y ffeithiau’n wybyddus.

Fe ofynnodd Golwg360 am ymateb gan swyddfa Nathan Gill ond does dim ymateb wedi dod eto.